Baner Sir Môn

Anglesey Flag

Cofrestrwyd y faner hon fel baner sir swyddogol Ynys Môn gan Flag Insitute yn 2014, ar ôl ymgyrch ar-lein. Mae’r cynllun yn deillio o’r arfbais a briodolir i’r arweinydd lleol, Hwfa ap Cynddelw. Roedd yn hanu o Stad Presaddfed ger Bodedern ac yn byw yn y 12fed ganrif. Dyma gyfnod Owain Gwynedd, Tywysog Cymru, a dywedir mai Hwfa oedd ei stiward. Ef hefyd oedd sylfaenydd un o Bymtheg Llwyth Gogledd Cymru, ac mae llawer o deuluoedd tirfeddianwyr lleol yn honni eu bod yn disgyn ohono.

Ceir y cyfeiriad cyntaf at yr arfbais hon yng ngwaith y bardd Lewys Glyn Cothi o’r bymthegfed ganrif. Mae’r cynllun hwn hefyd yn rhan o arfbais Cyngor Sir Ynys Môn (a roddwyd yn 1954 ac a ddangosir isod), ac fe’i defnyddiwyd ar gyfer Heddlu Môn rhwng 1857 a 1950, yn ogystal ag yn logo Brigâd Dân Ynys Môn.

Gellir prynu baneri Ynys Môn o Amazon.co.uk.

Anglesey County Council coat of arms

Warren Kovach is a participant in the Amazon EU Associates Programme, an affiliate advertising programme designed to provide a means for sites to earn advertising fees by advertising and linking to Amazon.co.uk.