Penmon Sanctaidd

Yn y 6ed ganrif gwelwyd twf yr Eglwys Gristnogol ledled y byd Celtaidd. Ynghyd â hyn roedd tuedd gynyddol i ffurfio mynachlogydd mewn mannau anghysbell i ddilyn ffyrdd asgetig o fyw. Yn ystod y cyfnod hwn ffurfiwyd dwy fynachlog ym mhen draw Môn gan ddau gyfaill, Seiriol a Cybi. Mynachlog Sant Cybi oedd wrth galon yr hyn sydd bellach yn Gaergybi a sefydlwyd Sant Seiriol ym Mhenmon, ym mhen gogledd-ddwyreiniol yr ynys.

Awyrlun Penmon, 2009
Awyrlun Penmon, 2009

Yn ôl y chwedl, arferai’r ddau sant gyfarfod yn wythnosol ger Llannerch-y-medd, ger canol yr ynys. Byddai Sant Cybi yn cerdded o Gaergybi, gan wynebu’r haul yn codi yn y bore a machlud haul gyda’r hwyr. Byddai St. Seiriol, wrth deithio i’r cyfeiriad arall, yn cael yr haul i’w gefn yn ystod ei daith. Cawsant eu hadnabod felly fel Cybi Felyn (gan iddo gael lliw haul yn ystod ei daith) a Seiriol Wyn.

Gallwch ddod o hyd i safleoedd Penmon gyda’r map hwn neu weld golygfa o’r awyr ar Google Maps.

Ffynnon Seiriol

Ffynnon Seiriol
Ffynnon Seiriol

Mae gan Benmon heddiw amrywiaeth o adeiladau diddorol. Yr hynaf yn fwyaf tebygol yw Ffynnon Seiriol. Roedd eglwysi Celtaidd cynnar fel arfer yn gysylltiedig â ffynnon sanctaidd. Credwyd bod ganddyn nhw bwerau iachau ac roedd pererinion yn aml yn ymweld â nhw. Bu bedyddiau yno hefyd. Mae’n debyg bod y gred yng ngrym y ffynhonnau wedi’i chario drosodd o’r hen grefyddau Celtaidd cyn-Gristnogol.

Gellir cyrraedd Ffynnon Seiriol trwy gerdded i fyny llwybr heibio pwll pysgod a adeiladwyd gan y mynachod. Mae’r ffynnon wedi’i hamgáu o fewn adeilad bach, y rhan fwyaf ohono’n frics o’r 18fed ganrif; mae’n debyg bod y lloriau a rhannau isaf y wal yn hŷn. Gellir gweld sylfeini adeilad bychan arall yn union wrth ymyl y ffynnon (yng nghornel chwith isaf y llun uchod). Credir yn aml mai gweddillion cell Sant Seiriol yw hon, lle byddai wedi byw, ond nid oes tystiolaeth i gefnogi hyn ac nid yw ei siâp yn debyg i gelloedd meudwy eraill y 6ed ganrif.

Priordy Penmon

Priordy Penmon
Priordy Penmon

Datblygodd mynachlog Seiriol Sant ar hyd y canrifoedd ac erbyn y 10fed ganrif roedd ganddi adeilad eglwysig pren a dwy groes uchel a safai yn ôl pob tebyg wrth fynedfa’r tiroedd mynachaidd. Fodd bynnag, dinistriodd cyrchoedd Llychlynnaidd yr eglwys yn 971. Ailadeiladwyd yr eglwys mewn carreg drwy gydol y 12fed ganrif yn ystod y cyfnod llewyrchus o dan reolaeth Gruffudd ap Cynan ac Owain Gwynedd. Dyma’r adeilad mwyaf cyflawn o’i oes yng ngogledd orllewin Cymru.

Cynllun Penmon
Cynllun Penmon

Mae’r eglwys o’r trefniant croesffurf nodweddiadol. Corff yr eglwys yw’r rhan hynaf, wedi’i gorffen tua 1140. Adeiladwyd y croesfa a’r tŵr yn 1160-70. Ychwanegwyd y gangell (y rhan dde yn y llun uchod) yn 1220-1240 yn ystod teyrnasiad Llywelyn ap Iorwerth (Llywelyn Fawr). Digwyddodd hyn ar yr adeg pan argyhoeddodd y brenin fynachlogydd Gogledd Cymru i ad-drefnu dan yr Urdd Sant Awstin. Adeiladwyd ffreutur hefyd o gwmpas yr amser hwn, gyda neuadd fwyta fawr, seleri ac ystafell gysgu. Mae’r adeilad tri llawr hwn bellach heb do. Tŷ’r prior oedd yr adeilad rhwng y ffreutur a’r transept deheuol, a adeiladwyd yn yr 16eg ganrif yn ôl pob tebyg. Mae bellach yn annedd breifat. Yr ardal yn y canol oedd y cloestr, ac efallai ar un adeg fod adeilad arall ar yr ochr ddwyreiniol, yn amgáu’r cloestr.

Diddymwyd y fynachlog ym 1537, yn ystod teyrnasiad Harri VIII, ynghyd â’r rhan fwyaf o rai eraill yng Nghymru a Lloegr. Yna trosglwyddwyd y tiroedd i berchnogaeth y tirfeddianwyr lleol, y teulu Bulkeley, ac fe’i defnyddiwyd fel parc ceirw. Parhaodd yr eglwys i gael ei defnyddio, fodd bynnag, ac ailadeiladwyd llawer ohoni yn 1855.

Croesau Uchel

Croes Uchel Penmon
Croes Uchel Penmon
Croes Uchel Penmon
Croes Uchel Penmon

Mae’r ddwy groes uchel a oedd yn ymyl y fynedfa i’r fynachlog ganoloesol gynnar yn dal i fodoli ac maent bellach wedi’u lleoli yn yr eglwys. Mae’r groes fwy (yn y llun ar y chwith), a safai yn ei safle gwreiddiol yn y parc ceirw tan 1977, bellach yng nghorff yr eglwys. Mae wedi gwisgo’n ddrwg, ond mae modd gweld y patrymau addurniadol cydblethedig a golygfa ddarluniadol yn dangos temtasiwn St Anthony, ynghyd â golygfa hela debygol.

Mae’r groes lai (yn y llun ar y dde), a leolir yn y transept deheuol, yn llawer llai hindreuliedig. Mae hyn oherwydd iddi gael ei ddefnyddio unwaith fel lintel ar gyfer un o ffenestri’r ffreutur; torwyd ymaith un o freichiau y groes ar gyfer y defnydd hwn. Mae’r groes wedi’i haddurno’n bennaf â chlymwaith ynghyd â dau ben anifail ar yr ochrau. Mae gan fedyddfaen mewn rhan arall o’r eglwys batrymau tebyg ac mae’n bosibl mai dyna oedd sylfaen wreiddiol y groes hon; erbyn hyn mae ganddi sylfaen fodern.

Colomendy

Colomendy Penmon
Colomendy Penmon

Mae’n debyg mai Syr Richard Bulkeley, a oedd yn berchen tiroedd yr hen fynachlog ar ôl diddymu, a adeiladodd y colomendy sy’n sefyll ger yr eglwys, tua 1600. Adeiladwyd hwn i gadw colomennod domestig ar gyfer eu hwyau a’u cig. Mae gan yr adeilad sgwâr hwn do cromennog mawr gyda chwpola bach ar y brig lle gallai’r adar hedfan i mewn ac allan. Y tu mewn roedd 1000 o flychau nythu ar gyfer y colomennod. Byddai piler yn y canol wedi cefnogi ysgol gylchdro i ddarparu mynediad i’r blychau.

Ynys Seiriol

Pan sefydlodd Sant Seiriol fynachlog Penmon sefydlodd hefyd gymuned ar ynys fechan ychydig oddi ar yr arfordir, 1/2 milltir o’r priordy. Gelwir yr ynys hon yn Puffin Island yn Saesneg ond ei henw Cymraeg yw Ynys Seiriol. Galwodd y Llychlynwyr hi yn Priestholm.

Ynys Seiriol a goleudy Trwyn Du
Ynys Seiriol a goleudy Trwyn Du

Mae gan yr ynys nifer o adfeilion adeiladau mynachaidd canoloesol, gan gynnwys tŵr eglwys o’r 12fed ganrif. Dywedir fod Seiriol Sant ei hun wedi ei gladdu yno, ac efallai hefyd y Brenin Maelgwn Gwynedd, a oedd yn rheolwr Gogledd Cymru ac yn noddwr i Seiriol Sant wrth sefydlu’r gymuned grefyddol.

Crybwyllir yr ynys gan Gerallt Gymro yn ei Journey through Wales yn 1188. Mae’n nodi mai gwladfa eglwysig ydoedd ar y pryd, “inhabited by hermits, living by manual labour and serving God”. Dywed hefyd, yn ôl y chwedl, pryd bynnag y byddai cynnen o fewn y gymuned y byddai pla o lygod bach yn bwyta eu holl fwyd.

Mae pla modern o lygod mawr hefyd wedi effeithio ar yr ynys. Fel mae’r enw’n awgrymu, roedd gan Ynys Seiriol ar un adeg niferoedd mawr o balod yn ogystal ag adar môr eraill fel gwylogod. Fodd bynnag, daeth llygod mawr brown i’r ynys yn y 1890au, gan leihau’r poblogaethau o adar sy’n nythu. Ar yr adeg hon roedd poblogaeth y palod eisoes yn lleihau oherwydd bod yr adar wedi dod yn ddanteithfwyd, ond lleihaodd y llygod mawr eu niferoedd ymhellach i ddim ond 20 pâr ychydig flynyddoedd yn ôl. Ym 1998 cychwynnwyd ar raglen gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru (nawr Cyfoeth Naturiol Cymru) i gael gwared ar y llygod mawr, yn y gobaith o annog yr adar i ddychwelyd.

Mae’r swnt rhwng Ynys Seiriol a Phwynt Penmon (neu’r Trwyn Du) yn beryglus. Suddodd llong o’r enw Rothesay Castle, ar daith dydd o Lerpwl, yma yn 1831. Adeiladwyd goleudy (a welir yn y llun uchod) a gorsaf bad achub yma yn fuan wedyn.

Map

Gweld holl Eglwysi a Chapeli Ynys Môn ar Google Maps